Mae hyn yn llawn amser, sefyllfa dros dro yn ofynnol am 12 mis.
Lleoliad y Swydd: Neuadd y Sir, Hwlffordd / Y Llwyfan Caerfyrddin
Cyfle cyffroes i symud eich gyrfa cyllid ymlaen fel Uwch Gyfrifydd ERW.
Byddwch yn medru rheoli eich amser ac yn gallu gweithio o fewn graddfeydd amser tyn, a gweithio gyda thim cyllid bychan yn y consortiwm, ond hefyd yn gweithio'n gyda'r tim cyllid yn Sir Benfro i ddarparu'r ystod lawn o swyddogaethau cyllidol ar gyfer y consortiwm rhanbarthol, gyda throsiant o dros £70m.
Byddwch hefyd yn gweithio gyda chynrychiolwyr o adrannau Cyllid y pump Awdurdod Lleol i sicrhau fod grantiau Llywodraeth Cymru'n cael eu gwario'n briodol.
Gofynnwn i bob ymgeisydd gyflwyno ceisiadau ar-lein. Os na fyddwch yn gallu gwneud hyn, cysylltwch a'r Gweinyddwr Recriwtio cyn gynted a phosibl trwy ffonio 01437 776358.
Yn ychwanegol at hyn, os bydd gennych unrhyw anghenion pellach neu os bydd arnoch angen unrhyw gymorth ychwanegol yn ystod y broses recriwtio, cysylltwch a ni trwy ffonio 01437 776358 neu anfon neges e-bost i recruit@pembrokeshire.gov.uk
Os ydych eisoes yn ddefnyddiwr, gwnewch yn siwr eich bod wedi mewngofnodi i'ch cyfrif cyn dechrau ffurflen gais.
Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol.
Ni fydd unrhyw geisiadau sy'n cael eu cyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg.
Disgrifiad Swydd