Dyma swydd lawn amser, barhaol.
Rydym eisiau denu Swyddog Cymorth Technegol i roi cymorth technegol a gweinyddol i'r Gwasanaeth Rheoli Llygredd a Thrwyddedu yn adran Diogelu'r Cyhoedd.
Bydd deiliad y swydd yn penderfynu a phrosesu ceisiadau am wahanol drwyddedau, hawlenni a chofrestriadau o fewn yr adran, gan gynnwys ymgynghoriadau gydag awdurdodau priodol a swyddogion eraill.
Nod y Gwasanaeth yw rhoi gwasanaeth o safon i'n cwsmeriaid, sy'n amrywio o dafarnau a chlybiau, tacsis, eiddo gamblo, casgliadau elusennol, eiddo diwydiannol a masnachwyr metel sgrap.
Mae hwn yn dim prysur sy'n gorfod gweithio i derfynau amser statudol. O ganlyniad, mae'n hanfodol gallu blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun. Byddai sgiliau cyfathrebu da a phrofiad o ddelio a phobl mewn dull effeithlon ac effeithiol yn fuddiol hefyd.
Gofynnwn fod pob ymgeisydd yn cyflwyno ceisiadau ar-lein. Os nad ydych yn gallu gwneud hyn, cysylltwch a'r Gweinyddwr Recriwtio mor fuan a phosibl ar 01437 776358 os gwelwch yn dda.
Os ydych eisoes yn ddefnyddiwr, gwnewch yn siwr eich bod wedi mewngofnodi i'ch cyfrif cyn dechrau ffurflen gais.
Ni fydd unrhyw geisiadau sy'n cael eu cyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg.
Disgrifiad Swydd