Dyma swydd barhaol am 12.5 awr yr wythnos, adeg tymor yn unig.
Eich swydd fydd cynorthwyo i baratoi a chynhyrchu prydau ysgol a chasglu arian a gweini prydau, ynghyd a'r dyletswyddau glanhau cysylltiedig.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i Wasanaeth Addysg a Phlant Sir Benfro. Yr ydym yn anelu at gefnogi plant a phobl ifanc agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel a phosibl. Mae ein hysgolion yn ymrwymedig i sicrhau bod y plant yn cael eu diogelu a'u gwarchod ac yn barod i gymryd camau i ddiogelu eu lles, a chydnabod bod gan blant yr hawl i gael eu gwarchod. Cefnogir hyn gan ethos cyffredinol yr ysgolion i gyd.
Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Gofynnwn fod pob ymgeisydd yn cyflwyno ceisiadau ar-lein. Os nad ydych yn gallu gwneud hyn, cysylltwch a'r Gweinyddwr Recriwtio mor fuan a phosibl ar 01437 776358 os gwelwch yn dda.
Os ydych eisoes yn ddefnyddiwr, gwnewch yn sir eich bod wedi mewngofnodi i'ch cyfrif cyn dechrau ffurflen gais.
Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg,ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd