Dyma swydd lawn amser, barhaol.
Mae Ysgol Portfield yn ysgol arbennig 'ardderchog' sy'n arbenigo mewn addysgu disgyblion gydag anableddau dysgu difrifol, cymhleth, cyfansawdd ac ASC o'i chanolfan yn Portfield, Hwlffordd ynghyd a darpariaeth ategol yn Ysgol Y Preseli. Mae hefyd yn darparu allgymorth i gefnogi ysgolion prif ffrwd Sir Benfro i gwrdd ag anghenion disgyblion gydag anghenion arbennig cymhleth. Mae gan yr ysgol gysylltiadau cryf a gofal cymdeithasol ac mae'n cydweithio ag asiantaethau eraill i ddatblygu darpariaeth gyda lleoliadau cyn-ysgol ac addysg ol-18 i'w disgyblion.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus a'r gallu i:
1. Gynnal y safonau uchel presennol mewn arweinyddiaeth a rheoli 2. Hyrwyddo gweledigaeth ac ymrwymiad i gynnal y safonau uchel o ddarpariaeth 3. Hyrwyddo rhagoriaeth, cydraddoldeb a disgwyliadau uchel i'r holl ddisgyblion4. Ysbrydoli, herio ac ysgogi'r tim staffio5. Hyrwyddo partneriaethau a chydweithio yn greadigol6. Cynnal ein hymrwymiad i weithio'n gadarnhaol gyda rhieni a gofalwyr
Gallwn gynnig:
1. Cyfle datblygiad proffesiynol cyffrous2. Disgyblion brwdfrydig sy'n mwynhau dysgu3. Tim o staff ymroddgar, talentog a phrofiadol4. Amgylchedd dysgu diogel a chynhwysol5. Rhieni a gofalwyr cefnogol iawn a llywodraethwyr ymrwymedig6. Tim amlddisgyblaethol llawn sgiliau i gefnogi anghenion dysgu, iechyd a lles disgyblion.
Yng Nghymru, mae Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005, a'r diwygiad a wnaed iddynt yn 2011, yn sicrhau ansawdd prifathrawiaeth drwy ei gwneud yn ofynnol i bob pennaeth gael Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP), oni bai eu bod yn bennaeth cyn i'r Rheoliadau ddod i rym.
Isod ceir dolen i'r dogfennau perthnasol:
http://learning.gov.wales/yourcareer/leadershipdevelopment/leadership-programmes/national-professional-qualification-for-headship/?skip=1&lang=cy
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i Wasanaeth Addysg a Phlant Sir Benfro. Anelwn at gefnogi plant a phobl ifanc sy'n agored i niwed i sicrhau eu bod mor ddiogel a phosibl. Mae ein hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn a byddant yn cymryd camau i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol pob ysgol.
Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Gofynnwn fod pob ymgeisydd yn cyflwyno ceisiadau ar-lein. Os nad ydych yn gallu gwneud hyn, cysylltwch a'r Gweinyddwr Recriwtio mor fuan a phosibl ar 01437 776358 os gwelwch yn dda.
Os ydych eisoes yn ddefnyddiwr, gwnewch yn siwr eich bod wedi mewngofnodi i'ch cyfrif cyn dechrau ffurflen gais.
Ni fydd unrhyw geisiadau sy'n cael eu cyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg.
Disgrifiad SwyddManyleb Person