*Cyfyngir y swydd hon I ymgeiswyr mewnol yn unig*
Dyma swydd lawn amswer, barhaol.
Byddwch yn gyfrifol dros wasanaethu cyfarfodydd y Strategaeth Amddiffyn Plant a'r Gynhadledd Amddiffyn Plant, adolygiadau Plant sy'n Derbyn Gofal a chyfarfodydd eraill, fel y penderfynir o bryd i'w gilydd gan y Rheolwr Diogelu. Bydd y dyletswyddau'n cynnwys ysgrifennu'r cofnodion, casglu gwybodaeth rheoli a chydlynu dyletswyddau gweinyddol a thasgau perthnasol.
Gyda chymhwyster RSA Cyfnod III neu debyg mewn prosesu geiriau, a gwybodaeth weithiol drylwyr o gymwysiadau Microsoft Office, bydd gennych brofiad gweinyddol blaenorol, yn enwedig profiad o drefnu a chofnodi cofnodion cyfarfodydd cymhleth. Bydd gan yr unigolyn sgiliau cyfathrebu gwych, ac yn medru delio gydag amrywiaeth o bartneriaid ar lefel broffesiynol, gan gynnal cyfrinachedd ar yr un pryd.
Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Gofynnwn fod pob ymgeisydd yn cyflwyno ceisiadau ar-lein. Os nad ydych yn gallu gwneud hyn, cysylltwch a'r Gweinyddwr Recriwtio mor fuan a phosibl ar 01437 776358 os gwelwch yn dda.
Os ydych eisoes yn ddefnyddiwr, gwnewch yn si?r eich bod wedi mewngofnodi i'ch cyfrif cyn dechrau ffurflen gais.
Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol.
Ni fydd unrhyw geisiadau sy'n cael eu cyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg.
Disgrifiad Swydd